Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 2 Chwefror 2017

Amser: 09. - 12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
3845


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

Siân Gwenllian AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Nicola Charles, Llywodraeth Cymru

Paul Webb, Devolved Sercvices Reform

Sophie Howe, Future Generations Commissioner

Marie Brousseau-Navarro, Legislation and Innovation

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Chloe Corbyn (Ymchwilydd)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 517KB) Gweld fel HTML (310KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2.    Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC.

 

1.3.    Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:

·         John Griffiths AC;

·         Jenny Rathbone AC

·         Joyce Watson AC

·         Rhianon Passmore AC

·         Siân Gwenllian AC.

</AI2>

<AI3>

2       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

·         Paul Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Gwasanaethau Datganoledig

·         Nicola Charles, Cyfreithiwr

 

 

2.2        Bu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wneud datganiad o fuddiant fel aelod o undeb.

 

2.3        Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu eglurhad ynghylch y graddau y bydd y Bil yn effeithio ar y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ran awdurdodau datganoledig yng Nghymru, yn ogystal â'r awdurdodau hynny eu hunain a'u gweithwyr.

 

 

</AI3>

<AI4>

3       Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

·         Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi

 

3.2 Cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddarparu copi o’r llythyr a anfonwyd at bob awdurdod lleol mewn perthynas â’r amserlenni statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar faterion na chafwyd cyfle i’w trafod yn ystod y cyfarfod, ac ar faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

</AI4>

<AI5>

4       Papurau i'w nodi

</AI5>

<AI6>

4.1   Gohebiaeth gan y Llywydd mewn cysylltiad â Senedd@Casnewydd

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Casnewydd

</AI6>

<AI7>

4.2   Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn cysylltiad â ‘Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig’.

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â 'Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â Chymru/San Steffan a gwledydd datganoledig'

</AI7>

<AI8>

4.3   Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

</AI8>

<AI9>

4.4   Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

</AI9>

<AI10>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

 

 

</AI10>

<AI11>

6       Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.

</AI11>

<AI12>

7       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>